Agenda - Y Cyfarfod Llawn


Lleoliad y cyfarfod:

Y Siambr - Y Senedd

Dyddiad y cyfarfod:
Dydd Mercher, 28 Mehefin 2023

Amser y cyfarfod: 13.30
 


149(v4)  

------

<AI1>

Cynhelir y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.

</AI1>

<AI2>

1       Cwestiynau i Weinidog yr Economi

(45 munud)

Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Gweinidog ar ôl Cwestiwn 2.

Gweld y Cwestiynau

</AI2>

<AI3>

2       Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

(45 munud)

Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Gweinidog ar ôl Cwestiwn 2.

Gweld y Cwestiynau

</AI3>

<AI4>

3       Cwestiynau Amserol

(20 munud)

Gofyn i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a’r Prif Chwip

Cefin Campbell (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa asesiadau y mae Llywodraeth Cymru'n eu gwneud o'r diswyddiadau a ragwelir yng Ngwesty Parc y Stradey, Llanelli?

Gofyn i Ddirprwy Weinidog y Celfyddydau, Chwaraeon a Thwristiaeth

Tom Giffard (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y penderfyniad a gyhoeddwyd yn ddiweddar ynghylch sefydlu cronfa ar gyfer gohebydd i ymdrin â thrafodion y Senedd?

</AI4>

<AI5>

4       Datganiadau 90 Eiliad

(5 munud)

</AI5>

<AI6>

Cynnig i ethol Aelod i bwyllgor

(5 munud)

NNDM8313 Elin Jones (Ceredigion)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Heledd Fychan (Plaid Cymru) yn aelod o’r Pwyllgor Busnes yn lle Siân Gwenllian (Plaid Cymru).

</AI6>

<AI7>

5       Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod – Bil dyletswydd ddinesig i bleidleisio

(30 munud)

NDM8293 Adam Price (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr)

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi cynnig ar gyfer Bil ar gyflwyno dyletswydd ddinesig i bleidleisio.

2. Yn nodi mai diben y Bil hwn fyddai:

a) ceisio efelychu llwyddiant democratiaethau eraill sydd wedi cyflwyno dyletswydd ddinesig i bleidleisio o ran cynyddu'r nifer sy'n pleidleisio mewn etholiadau a thrwy hynny wella lefel yr ymgysylltiad a'r cynrychioldeb ar draws pob oedran, dosbarth a chymuned;

b) cyflwyno dyletswydd ddinesig ar bawb sy'n gymwys i bleidleisio i gymryd rhan yn etholiadau'r Senedd ac etholiadau cyngor sir;

c) caniatáu i'r rhai sy'n dymuno nodi eu hanfodlonrwydd gydag ymgeisydd, plaid neu wleidyddiaeth yn ehangach i wneud hynny drwy opsiwn o ymatal yn gadarnhaol ar y papur pleidleisio;

d) caniatáu cyflwyno cosb briodol am beidio â chydymffurfio â'r rhwymedigaeth ddinesig i bleidleisio neu ymatal yn gadarnhaol, gydag eithriadau cyfreithlon; ac

e) darparu ar gyfer cyflwyno cyfnod peilot ar gyfer cyflwyno'r ddyletswydd ar sail oedran benodol.

Cefnogwyr

Rhys ab Owen (Canol De Cymru)

</AI7>

<AI8>

6       Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol - 60% - Rhoi llais iddyn nhw: Anghenion lleferydd, iaith a chyfathrebu yn y system cyfiawnder ieuenctid

(60 munud)

NDM8304 Jenny Rathbone (Canol Caerdydd)

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol, '60% - Rhoi llais iddyn nhw: Anghenion lleferydd, iaith a chyfathrebu yn y system cyfiawnder ieuenctid', a osodwyd ar 19 Ebrill 2023.

Noder: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 21 Mehefin 2023.

</AI8>

<AI9>

7       Dadl ar ddeiseb P-06-1340 - Atal newid y terfynau cyflymder i 20mya ar 17eg Medi

(60 munud)

NDM8306 Jack Sargeant (Alun a Glannau Dyfrdwy)

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi’r ddeiseb ‘P-06-1340 Atal newid y terfynau cyflymder i 20mya ar 17eg Medi’ a gasglodd 21,920 o lofnodion.

</AI9>

<AI10>

8       Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Cymunedau gwledig

(60 munud)

NDM8307 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi pwysigrwydd yr economi wledig a'r rôl y mae busnesau bach yn ei chwarae mewn cymunedau gwledig ledled Cymru.

2. Yn cydnabod cyfraniad gwerthfawr ffermio Cymru i'r economi wledig.

3. Yn cydnabod manteision digwyddiadau fel Sioe Frenhinol Cymru, yr Eisteddfod Genedlaethol ac eraill o ran cefnogi cymunedau gwledig a hyrwyddo'r iaith Gymraeg a diwylliant Cymru.

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) creu strategaeth seilwaith i fynd i'r afael â'r heriau sy'n wynebu cymunedau gwledig; a

b) ailddyblu ymdrechion i fynd i'r afael â chysylltedd trafnidiaeth gyhoeddus wael ar draws cefn gwlad Cymru.

Cyflwynwyd y gwelliant a ganlyn:

Gwelliant 1 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Ychwanegu pwyntiau newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn gresynu at y ffaith bod Llywodraeth Geidwadol y DU wedi tynnu gwerth cannoedd o filoedd o bunnau o gyllid oddi wrth economi wledig Cymru.

Yn gresynu at y diffyg sicrwydd ynghylch cyllid hirdymor i gynorthwyo ffermydd ers i’r DU ymadael â’r UE.

</AI10>

<AI11>

9       Cyfnod Pleidleisio

 

</AI11>

<AI12>

10    Dadl Fer

(30 munud)

NDM8305 Mabon ap Gwynfor (Dwyfor Meirionnydd)

Pobl hŷn ac agored i niwed sy'n berchen ar dai ac yn byw mewn cartrefi sy'n anaddas i bobl fyw ynddynt

</AI12>

<TRAILER_SECTION>

Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Senedd am 13.30, Dydd Mawrth, 4 Gorffennaf 2023

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

1.          FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

FIELD_SUMMARY

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

2.          FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

FIELD_SUMMARY

</TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

</COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

FIELD_SUMMARY

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>